Croeso i wefan Cilycwm
Welcome to the Cilycwm website
y llun drwy garedigrwydd Sue Cornah
Cymuned fach wasgaredig o ffermydd mynydd yn bennaf yw Cil-y-cwm, sydd wedi'i leoli i'r gogledd orllewin o Fannau Brycheiniog ger Llanymddyfri. Fel rhan o'r cynlluniau gan wahanol fentrau Ewropeaidd a anelwyd at wella ardaloedd tebyg i'n hardal ni, rydym wedi ffurfio Cymdeithas Gymunedol sy'n ceisio gwella cyfleusterau ein cymuned. Mae ein ffordd ni o fynd ati, yn rhannol economaidd wrth geisio ymateb i'r dirywiad mewn amaethyddiaeth mynyddig ond mae yna hefyd yn ystyriaethau cymdeithasol. Un gwelliant a allai fod o fudd cymdeithasol ac economaidd i'n cymuned yw mynediad i'r rhyngrwyd.
Felly, dyma dudalen i ddechrau ein cynlluniau i osod Cil-y-cwm ar y rhyngrwyd a sefydlu gwefan a fydd yn dangos i bawb sut yr ydym yn byw.
Bydd ymwelwyr i'r wefan yn gallu:
- Gweld lluniau o'r tirlun hynod hardd sydd o'n cwmpas yma ynghyd â gwybodaeth am sut i gyrraedd yma a ble i aros ac yn y blaen.
- Darllen am ein hetifeddiaeth a'n hanes.(Roedd Cil-y-cwm yn bentref pwysig i'r porthmyn).
- Dod i'n hadnabod ni fel cymuned.
- Bod yn rhan o'n gwyl i ddathlu ein bod yn byw yma.
- Gweld sut y gallwch chi ein helpu ni?
Mae Cymdeithas Gymunedol Cilycwm wedi cymeryd yr her o greu gwefan i gysylltu â'r "We Fyd Eang" i nodi beth sydd yn digwydd yn y Cwm hwn. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn helpu pobl ifanc y fro i ddod o hyd i waith ar y we ac i wneud hi'n bosib i rai ohonynt aros yma yn hytrach na gadael yr ardal i chwilio am waith.
Mae'r gymuned wedi gofyn i'r Gymdeithas Gymunedol i edrych i mewn i nifer o wahanol prosiectau fel gwella rhwydwaith ein pentrefi, sefydlu canolfan i'r gymuned, gwarchod y wlad hardd sydd o'n cwmpas a chreu llwybr etifeddiaeth sy'n dangos yr hanes a'r pethau diddorol sydd yn ein cwm.
