Cwm Rhaeadr : Cyflwyniad i’r Arolwg o Uwch Blanhigion a wnaed gan M a J Iliff 2007
Yn y gorffennol, roedd Cwm Rhaeadr yn rhan o waun Mynydd Malláen, y mae ei hochrau'n aml yn gysgodol ac yn gyfoethog o ran rhywogaethau.
Datgelir y cymeriad gweundirol gan blanhigion megis Blechnum (Gwibredynen), sy'n digwydd yn fynych, Juncus squarrosus (brwynen droellgorun) a Wahlenbergia (clychlys dail-eiddew).
Sylwir na welwyd y planhigion gwrych cyffredin megis gludlys coch (blodau neidr / blodau taranau) a gorthyfail.
Gwyddom fod nifer o ffermydd bychain wedi bod ar y safle'n fwy diweddar, ond nid oes braidd dim o olion y rhain o ran chwyn cyffredin megis danadl/dynaint a dail tafol a geir fel arfer fel tystiolaeth o anheddiad.
Yr unig enghraifft amlwg yw dau bren bocs enfawr ac amrywiaeth o gennin Pedr blodau mawr o oes Victoria sy'n tyfu nid nepell o ysguboriau Cwm Rhaeadr (yr adeiladau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y sgowtiaid).
O ganlyniad i effaith cysgodi'r coed, mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau'n digwydd, yn ffodus i'r sawl sy'n pasio heibio, ar ymylon yr heolydd: mae llawer o'r rhain yn gyfoethog iawn o ran rhywogaethau, gan ddangos amrywiaeth fawr o blanhigion cyfansawdd, ffacbys, meillion ac wmbellifferau ac, yn y mannau sychaf, y ganrhi bach pinc yn doreithiog.
Yn y ffosydd yn aml, ceir helaethrwydd o frwyn a hesg ac o wlyddyn-Mair y gors pinc, sy'n lledu fel carped.
Yr ardal fwyaf amrywiol efallai yw'r llwybr glan afon o'r bont i'r bachdro islaw'r rhaeadr. Gerllaw'r bont ceir cytref eithaf mawr o Equisitum sylvaticum (marchrawn y coed), planhigyn hardd, â llawer o ganghennau, sy'n ymddangos yn yr haf yn unig. Hefyd ar hyd y llwybr, ceir Solidago (eurwiail), Wahlenbergia a chlystyrau o Polytrichum (brigerfwsoglau).
Mwsoglau a llysiau'r afu yw llawer o blanhigion Cwm Rhaeadr, ac ystyrir y rhain yn llawn yn arolwg Mr Ray Woods.
Lawrlwythwch restr o enwau planhigion yn Gymraeg, Saesneg a Lladin
