Nodau prosiect Cwm Rhaeadr



Mae Cydcoed yn brosiect Comisiwn Coedwigaeth Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
amcanion
Nodau prosiect Cwm Rhaeadr yw:
- gwella mynediad i'r goedwig a'i gwneud yn fwy diogel er mwyn denu mwy o ymwelwyr a chynnig mwy o fwynhad;
- give greater enjoyment;
- gwella gwybodaeth am goetiroedd a bywyd gwyllt a'u rheolaeth;
- cael mwy o goed collddail, yn enwedig deri brodorol;
- a gwneud y gymuned leol a'r cyhoedd yn gyffredinol y fwy ymwybodol o fodolaeth Cwm Rhaeadr.
Ei brif weithgareddau fydd:
- creu Llwybr Mynediad crwn newydd ar gyfer pobl o bob gallu, ynghyd â phwll a llannerch ieir bach yr haf
- creu Llwybr Beiciau Mynydd newydd (Llwybr Hwyl i'r Teulu/llwybr seiclo crwn yn y goedwig)
- creu llwybr ceffylau trwy Gwm Rhaeadr, a fydd yn cysylltu â'r llwybr ceffylau sy'n bodoli ar Fynydd Mallaen
- gwella'r daith gerdded sy'n bodoli gyda gwaith atgyweirio, seddau, arwyddion, sticillau ger y rhaeadr, byrddau dehongli a byrddau mapiau
- gwella'r maes parcio a'r pwynt mynediad sy'n bodoli
- cwrs cyfeiriadu Sgowtiaid
- cael pobl leol i gyfranogi trwy wneud arolygon o fywyd gwyllt, coed a phlanhigion; gosod blychau adar; a dylunio byrddau dehongli, taflenni gwybodaeth a thaflenni teithiau gerdded
- trefnu teithiau cerdded natur tywysedig
- casglu syniadau ynghylch ailblannu byrdymor a hirdymor oddi mewn i Gwm Rhaeadr er mwyn cyflwyno cynllun i fwydo cynlluniau Menter Coedwigaeth, a chyslltu â Chomisiwn y Goron ynghylch cadw hen goetir deri ar lechweddau Mynydd Mallaen
- marchnata a rhoi cyhoeddusrwydd i'r prosiect.
Fe fydd o fantais i bobl ag anableddau, pobl hy^ n, teuluoedd â phlant ifainc, seiclwyr, marchogion, gwylwyr adar, pobl sy'n mwynau bywyd gwyllt, trigolion blaenau Tywi, ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau.
Map o'r datblygiadau bwriadedig
Allwedd
- Ardal rheoli
- llwybr ceffylau goddefol
- Llwybr i bobl o bob gallu
- Llwybr beicio a adeiladwyd
- Llwybr presennol y goedwig
- Heol bresennol y goedwig
Asesiad o Effaith Amgylcheddol Coedwig Cwm Rhaeadr
Gwybodaeth wedi'i chrynhoi gan Martin Murray, Swyddog Hamdden Cefn Gwlad, Cyngor Sir Caerfyrddin.Rhesymeg yr Asesiad
I asesu effaith Amgylcheddol Prosiect Coetir Cymunedol Cwm Rhaeadr. I bennu dilysrwydd y cyfryw gynllun yn nhermau'r niwed amgylcheddol sy'n bosibl yn ei sgil.
Cyfyngiadau:
- Mae'r amser sydd ar gael ar gyfer asesiad yn gyfyngedig oherwydd ystyriaethau ymarferol ar gyfer cwblhau'r gwaith ffisegol yn y fan a'r lle o fewn y flwyddyn (2004).
- Nid yw'n bosibl cynnal arolwg Fflora a Ffawna llawn oherwydd pwynt un uchod a chyfyngiadau ariannol. Gan ystyried yr uchod, dylid nodi sawl pwynt allweddol:
- Bod yr asesiad sydd wedi'i wneud hyd yma a'r monitro a fwriedir ar gyfer y llwybrau newydd wrth i'r gwaith clirio ac adeiladu fynd yn ei flaen, cystal, os nad yn well na'r arfer da arferol ar gyfer gwaith tebyg mewn coetiroedd eraill sy'n eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac a reolir ganddo.
- Mae nifer o bobl â gwybodaeth arbenigol neu leol wedi ymweld â'r safle i gynorthwyo gydag arolygon o blanhigion ac anifeiliaid ac i helpu i asesu hyfywedd y cynllun.
- Nid yw staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy'n gyfarwydd â'r safle, na syrfewyr annibynnol, wedi codi unrhyw bryderon mawr sy'n ymwneud â gweithrediad y cynllun, cyhyd ag y rhoddir sylw priodol i'r pryderon a godir a'r cyngor a amlinellir isod.
Amseru a gwneud y gwaith yn y fan a'r lle.
O safbwynt ymarferol, cydnabyddir mai'r amser gorau i wneud y gwaith yw canol haf gan fod cyflwr y tir yn debygol o fod yn well ar gyfer peiriannau trwm. Fodd bynnag, mae problemau ynghlwm wrth hyn, a bydd rhaid cyfaddawdu rhwng gwneud y gwaith ganol haf ac aros tan y gaeaf gyda'r problemau cysylltiedig o dywydd gwlyb a machlud cynnar. Os oes modd ni ddylid gwneud unrhyw waith gyda pheiriannau trwm tan ddiwedd Gorffennaf neu Awst.
Adar Nythu
Mae gweilch Marthin o bwys arbennig yn y goedwig hon ac mae'n debygol iawn bod adar ysglyfaethus eraill yn nythu neu'n clwydo yn y goedwig. Wrth i'r ddogfen hon gael ei hysgrifennu nid oedd y gweilch Marthin wedi dychwelyd i'w safleoedd nythu blaenorol. Byddai hyn yn gyfleus iawn oherwydd byddent gryn bellter oddi wrth y gwaith arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad newydd. Gan hynny, bydd angen archwilio pob safle lle gallai gweilch Marthin fod yn nythu ar hyd y llwybrau arfaethedig cyn i'r gwaith ddechrau. Os deuir o hyd i nyth, bydd angen atal y gwaith yn yr ardal honno nes bydd y cywion wedi magu eu plu a gadael y nyth.
Bydd yr ardal lle bwriedir adeiladu'r Llwybr Pob Gallu mewn rhan o'r goedwig sydd wedi'i gorchuddio'n sylweddol â drysi, bedw sydd wedi'u hau eu hunain, helyg a chyll. Mae hyn yn creu isdyfiant a phrysgwydd trwchus sydd bron yn anhreiddiadwy mewn mannau. Mae'r cynefin hwn yn bwysig gan ei fod yn darparu cysgod, safleoedd nythu a mannau bwydo i amrywiaeth o adar megis Llwyd y Gwrych, Robin Goch, y Dryw a'r Fwyalchen.
Dylid gadael llonydd i'r mannau hyn tan ar ôl y tymor nythu.
Dylai Comisiwn Coedwigaeth Cymru ystyried cadw peth o'r isdyfiant trwchus, prysgog hwn (tua 50% efallai) er mwyn cynnal y cynefin ar gyfer y dyfodol a'i wneud yn fwy diddorol i ymwelwyr fel un o amrywiaeth o gynefinoedd yn ardal y Llwybr Pob Gallu. (Gellid rhoi gwybodaeth ddeongliadol am y cynefin hwn ac eraill i'r cyhoedd.)
Moch Daear
Cafwyd hyd i un twll yn yr ardal mynediad pob gallu. Roedd yn anodd gwybod a oedd hwn yn dal i gael ei ddefnyddio, ac os oedd, gan ba anifail. (Nododd Alan Enoch, Rhodiwr Cadwraeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Gyfeirnod Grid ar gyfer hwn). Cafwyd hyd i'r hyn a ymddangosai fel llwybrau moch daear gerllaw, yn ogystal â baw moch daear ond mae'n bosibl nad yw hyn yn dangos man bwydo a/neu geudy. Fodd bynnag byddai pwyllo a symud y llwybr tua 20m i'r naill ochr o hyn yn synhwyrol.
Materion eraill yn Ardal y Llwybr Mynediad Pob Gallu
Teneuo Ffynidwydd Douglas
Mae llawer o'r drysi a'r isdyfiant prysgog a grybwyllwyd uchod o dan gelli o ffynidwydd Douglas lled aeddfed. Mae cadw'r gelli hon yn bwysig o safbwynt cadwraeth ac estheteg gan ei bod yn ychwanegu at amrywiaeth yr ardal. Fodd bynnag, byddai teneuo a chwympo rhai o'r coed gwaethaf yn gwella'r olwg trwy roi lle i'r ffynidwydd sydd ar ôl gyrraedd eu llawn dwf.
Byddai angen ymgynghori â staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru ynghylch ymarferoldeb hyn gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i asesu'r niwed posibl i'r gelli a'r perygl i'r cyhoedd oherwydd coed yn cael eu cwympo gan y gwynt.
Ardal y Pwll/Gwlyptir
Mae'r pwll a ddangosir ar fap Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gynefin arbennig ynddo'i hun gyda phlanhigion ac anifeiliaid gwlyptir cysylltiol. Dylid osgoi gwneud unrhyw niwed i'r ardal hon, gan y gellid dadlau mai dyma'r safle mwyaf diddorol yn ardal y Llwybr Mynediad Pob Gallu. Ar hyn o bryd, mae'n fwy o wlyptir na phwll a gellid yn hawdd ei wella trwy ei ehangu a chreu ardaloedd o ddwr agored (yn fwy na thebyg ar yr ochr ogledd-orllewinol). Gellid gwneud hyn ar yr un pryd â gosod y llwybr.
D.S. os yw'r pwll/gwlyptir i gael ei wella, dylid ei ehangu gan adael llonydd i'r fflora presennol, trwy beidio â'i gloddio. Os bydd angen tynnu llystyfiant/pridd y gwlyptir dylid ei roi i'r naill ochr ac yna'i ailosod yn y gwlyptir cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl er mwyn cynnal y sylfaen hadau a'r pryfed.
Byddai ehangu'r pwll a chreu mannau o ddwr agored yn gwella'r cynefin ar gyfer gweision y neidr a mursennod ac ni all ond ychwanegu gwerth esthetig a diddordeb i'r llwybr. Gallai llwybr estyll wedi'i osod yn ofalus groesi neu fynd heibio i ran o'r gwlyptir er mwyn dod ag ymwelwyr yn agosach i'r gwahanol blanhigion ac anifeiliaid heb ormod o niwed i'r cynefin (ni fyddai angen i lwybr estyll fod yn fwy nag 1.2m o led). Lle mae rhimyn o lwyni brodorol yn bresennol dylid eu gadael yn eu lle; fel arall dylid plannu yn ôl y galw er mwyn creu cysgod rhannol ar un ochr o'r pwll. Yn ogystal, dylid cwympo'r rhan fwyaf o'r conwydd ar yr ochr arall er mwyn gadael mwy o olau i mewn. Byddai creu llannerch agored trwy gwympo'r conwydd yn rhoi'r golau angenrheidiol a byddai o fudd i blanhigion y llawr o amgylch. Byddai hefyd yn fan delfrydol ar gyfer seddi a dehongliad.
Y Llannerch Agored
Bydd creu a chynnal llannerch agored yn y rhan ogleddol (fel yr awgrymir yng nghynllun Comisiwn Coedwigaeth Cymru) yn creu cynefin arbennig arall ac yn ychwanegu at amrywiaeth a diddordeb y safle. Mae pryderon ynghylch rheolaeth yr ardal hon wedi'u codi a bydd angen cadw at y gyfundrefn reoli o ffustio'r ardal er mwyn llethu neu ddifa'r rhedyn.
Dylid osgoi unrhyw chwistrellu cyffredinol â chwynladdwr. Dylid trin rhywogaethau ymledol parhaus fel rhododendron yn benodol â chwynladdwr systemig.
Materion eraill yn ymwneud â gweddill y goedwig
Y Llwybr Beicio
Mae'n ymddangos bod llinell y llwybr beicio yr un peth â'r Hawl Tramwy cyhoeddus ar hyd dwy adran.
Bydd angen i'r contractwyr sicrhau y caiff y Llwybr Beicio ei osod i'r naill ochr o'r Hawl Tramwy er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro â cherddwyr ac osgoi defnydd anghyfreithlon o'r llwybr.
Pwysau ymwelwyr cynyddol
Mae pryderon wedi'u codi ynghylch effeithiau pwysau ymwelwyr cynyddol ar y goedwig ac yn wir ar yr ardal o'i hamgylch. Fy marn bersonol yw bod y datblygiad yn annhebygol o ddenu niferoedd gormodol o ymwelwyr ar unrhyw adeg. Credaf y bydd niferoedd yr ymwelwyr yn weddol gyfartal ar hyd y flwyddyn gydag adegau gwyliau a phenwythnosau yn ystod tywydd braf yn eithriadau amlwg. Dylai atyniad wedi'i adeiladu'n bwrpasol fel hyn allu derbyn yn hawdd nifer yr ymwelwyr sy'n debygol o ddod, hyd yn oed ar yr adegau prysuraf. Un o'r pethau gorau am ddatblygiadau mewn coedwigoedd yw y gallant dderbyn nifer fawr o ymwelwyr heb deimlo'n orlawn. Nid wyf yn credu y bydd niferoedd yr ymwelwyr yn effeithio'n rhy andwyol ar fflora a ffawna yr ardal, er bod rhaid cydnabod ei bod yn anochel y cânt eu haflonyddu rywfaint.
Y Rhaeadr a'r Hawl Tramwy Cyhoeddus
Mae pwysau ymwelwyr cynyddol ar safle'r rhaeadr yn rhywbeth y bydd rhaid rhoi sylw iddo. Mae'n fan sensitif lle byddai'n hawdd niweidio'r fflora trwy eu sathru. Ar hyn o bryd mae'r Hawl Tramwy Cyhoeddus yn arwain ar hyd ochr ddeheuol y rhaeadr. Camgymeriad mapio yw hyn yn fwy na thebyg, ac mae angen ei newid gan fod dilyn y llwybr heb berygl o gael anaf bron yn amhosibl. Mae angen trafod y broblem hon gyda Swyddog Hawliau Tramwy Cyngor Sir Caerfyrddin (Bruce Wallace). Mae gwyro'r llwybr ar hyd ochr ogleddol y rhaeadr ac yna allan i'r rhos yn ymddangos yn ateb synhwyrol er mwyn rhoi llwybr diogel i gerddwyr. Mae yna fantais ychwanegol oherwydd byddai llai o niwed yn cael ei achosi i'r fflora yn y man sensitif hwn. Oherwydd materion Iechyd a Diogelwch, hwyrach y gellid perswadio Cyngor Sir Caerfyrddin i dalu am y costau cyfreithiol cysylltiol.
Marchrawn y Coed
Mynegwyd pryder ynghylch y defnydd cynyddol o'r llwybrau presennol yn y goedwig. Mae nifer o Farchrawn y Coed (Equisetum sylvaticum) yn tyfu ar dde-orllewin y llwybr glas, yn union i'r gogledd o'r bont. Mae hon yn rhywogaeth nodedig sy'n anghyffredin yn yr ardal ac sy'n haeddu cael ei gwarchod. Yn bersonol, credaf na fydd effaith sathru ar y rhywogaeth hon mor ddifrifol â'r gyfundrefn torri gwair a strimio ar hyd ymyl y llwybr. Mae'r marchrawn yn tyfu'n bennaf yn y ffos ddraenio a'r clawdd cyfagos ac ar y cyfan byddant yn cael llonydd gan bobl yn mynd heibio.
Argymhellir bod staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ymgynghori â James Iliff ynghylch rheolaeth y darn hwn o'r llwybr.
Beiciau modur a cherbydau modur 4x4
Bydd rhaid ymdrechu i gadw gyrwyr cerbydau oddi-ar-yr-heol 4x4 a beicwyr modur draw, ond heb effeithio ar fynediad marchogion, cerddwyr a beicwyr. Gall cerbydau 4 x 4 a sgrialwyr greu niwed enfawr mewn amser byr iawn. Bydd hyn yn arbennig o wir os cânt fynediad i AHNE Mynydd Mallaen.
Mae'n bosibl adeiladu rhwystrau beiciau modur sy'n caniatáu mynediad i farchogion, cerddwyr a beicwyr (ceir darlun enghreifftiol yn Practical Handbook on Footpaths y Gwarchodwyr Cefn Gwlad (BCTV)). Nid yw'r rhwystrau'n ffordd ddi-ffael o atal beiciwr modur penderfynol, ond fe ddylent leihau'r broblem yn sylweddol.
Mae'n siwr y bydd Menter Coedwigaeth am fynd i'r afael â'r broblem hon.
Defnyddiau'r llwybrau troed
Lle bynnag y bo'n ymarferol, dylid defnyddio defnyddiau ar wyneb y llwybrau sy'n cyd-fynd â gwerthoedd pH y priddoedd o amgylch. Cydnabyddir y gallai hyn fod yn afrealistig oherwydd argaeledd neu gost defnyddiau a thrafnidiaeth.
Y Ffordd Ymlaen
Wrth wneud arolwg o'r safle, daeth yn amlwg yn fuan iawn y byddai bron yn amhosibl dilyn y llinell a fwriadwyd ar gyfer y llwybrau a'r traciau newydd. Fel y nodwyd uchod, mae rhai mannau'n anhreiddiadwy oherwydd drysi a brigau; felly gwneud roedd arolwg ar droed o union linell y traciau yn amhosibl.
Y farn gyffredinol oedd taw'r peth mwyaf synhwyrol a sensitif i'w wneud fyddai clirio'r holl docion a drysi oddi ar linell y llwybrau a'r traciau newydd cyn dod â pheiriannau trwm i mewn. Ar ôl gwneud hyn gellir gwneud archwiliad terfynol ar hyd y llwybr arfaethedig, a gellir ei symud os bydd rhywbeth yn codi i gyfiawnha hynny, e.e. gwâl moch daear, planhigyn prin neu gynefin sy'n werth ei gadw.
Deallaf fod hyn yn arfer cyffredin gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae'n ymddangos mai'r person gorau i wneud hyn fyddai Swyddog Cadwraeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer yr ardal (Dave Reece), efallai gyda chymorth un neu fwy o'r syrfewyr lleol sydd wedi cynnig eu help (James Iliff a Neil Matthew).
Crynodeb
Mae'r potensial ganddo hefyd i wella cynefinoedd presennol y goedwig a thrwy hynny gynyddu amrywiaeth y fflora a'r ffawna. Mae'n bosibl iawn y bydd y teneuo dwys, ffustio, tocio, ac ailblannu arfaethedig yn gwella llawer o'r mannau sydd wedi bod dan gysgod trwm y conwydd.
Mae cymunedau gweddilliol o blanhigion a gysylltir â choetir collddail cymysg a rhostir yn dal i oroesi yn y mannau mwyaf heulog, mewn llennyrch bach ac ar ymyl llwybrau. Mae'n bosibl iawn y bydd agor y goedwig ar hyd y llwybrau newydd a'r creithio oherwydd y gwaith gosod llwybrau troed yn cynorthwyo'r cymunedau gweddilliol hyn i ymledu ac aildyfu. Gall rhai hadau oroesi am sawl blwyddyn yn y ddaear, felly bydd yn ddiddorol gweld pa blanhigion fydd yn dychwelyd wrth i'r golau ddychwelyd ac wrth i'r ddaear gael ei droi ychydig.
Mae'r cynllun a luniwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar y cyd â Chymdeithas Gymunedol Cil-y-cwm yn ymddangos yn un da. Hyd y gwn i nid oes neb wedi cyflwyno unrhyw bryderon mawr na ellir eu datrys neu a fyddai'n cyfiawnhau atal y datblygiad.
Bydd angen cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd, ond rwy'n hyderus y gellir gweithredu'r prosiect, ac y caiff ei weithredu, mewn modd amgylcheddol sensitif a fydd, ar y cyfan, yn fanteisiol i bobl ac i'r amgylchedd.
Cydnabyddiaethau
Hoffwn yr arbennig ddiolch i:
James Iliff (botanegwr a chofnodwr/syrfëwr lleol) a gyfrannodd yn hael o'i amser ac a gynorthwyodd gydag ymweliadau safle a gwaith arolwg. Gwerthfawrogais ei wybodaeth leol a'i arbenigedd botanegol yn fawr iawn.
Neil Matthew sy'n gweithio i'r Cyngor Cefn Gwlad ac a roddodd wybodaeth yn ystod ymweliad â'r safle ynghylch anifeiliaid a phlanhigion yr ardal.
Staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru (Swyddfa Llanymddyfri) a neilltuodd amser i drafod y prosiect yn rhydd ac a ddarparodd fapiau a gwybodaeth arall am goedwig Cwm Rhaeadr.
