Strydoedd Cil-y-cwm
Cil-y-cym- 1910
SAITH RHYFEDDOD CIL-Y-CWM
- Eglwys Cil-y-cwm - yn dyddio o'r Canol Oesoedd ac yn meddu ar sawl nodwedd hynod.
- Cylch Gerrig - dirgelwch o gyfnod cynharach uwchlaw Cwm Gwenffrwd.
- Cwm Rhaeadr - lle i ymlacio. Sgwd ysblennydd yn arllwys dros ymyl y mynydd i'r dyffryn islaw.
- Strydoedd Cil-y-cwm - a mixture of several centuries of rural habitation, cobbles, gutters and a tavern.
- Capel Soar - mangre sanctaidd a fu'n ysbrydoliaeth a chysur i lawer yn ystod y tair canrif ddiwethaf.
- Pont Dolauhirion - campwaith pensaernïol sy'n pontio sawl canrif.
- Afon Tywi - er i'r rhan fwyaf o'i physgod ddiflannu o'r ardal hon, ni chollodd ei chyfaredd.
Saith Rhyfeddod yng nghyffiniau Cil-y-cwm
- Ystafell Twm - yr ogof a fu'n guddfan i'r arwr gwerin, Twm Siôn Cati.
- Mwyngloddiau Aur Dolaucothi - yn dyddio o'r oes gyn-Rufeinig ac sydd nawr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Llyn y Fan Fach - ardal ddelfrydol ar gyfer cerdded a hamddena, lle mae hud morwyn y llyn a'i disgynyddion, meddygon Myddfai, i'w deimlo o hyd.
- Cestyll Carreg Cennen, Dinefwr a Dryslwyn - tri chastell Cymreig nodedig sy'n haeddu ymweliad unrhyw adeg o'r flwyddyn.
- Mynydd Epynt (Cynghordy - Tirabad - Llywel) - ardal hardd wedi'i meddiannu gan y fyddin, a gododd bentref anarferol yn ei chanol.
- Traphont Reilffordd Cynghordy - 18 bwa yn cario'r rheilffordd rhwng Abertawe ac Amwythig.
- Gwasg y Tonn - yn y Ganolfan Dreftadaeth yn Llanymddyfri. Ar y wasg hon y cafodd rhai o glasuron pennaf Cymru eu hargraffu yn ystod y 19eg ganrif.
