Newidiadau sy’n effeithio ar y gwasanaeth ailgylchu / biniau |Changes affecting bins / recycling service

English below.

Y nifer fwyaf o fagiau du y bydd preswylwyr yn gallu eu rhoi allan i’w casglu fydd 3 bob pythefnos. 

Bydd nifer o newidiadau yn cael eu cyflwyno o 7 Hydref a fydd yn effeithio ar gasgliadau biniau a chanolfannau ailgylchu. 

Cofiwch fod modd rhoi cynifer o fagiau glas ag y mynnir allan i’w casglu a chaiff gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos.

Po fwyaf y byddwch yn ei ailgylchu, y lleiaf o fagiau du y bydd gennych. Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin yn gallu cael ei ailgylchu a gwastraff bwyd yw cymaint â chwarter ohono.

Bydd teuluoedd mawr o chwech neu fwy, teuluoedd sydd â phlant mewn cewynnau a chartrefi sy’n cynhyrchu gwastraff lludw glo o leoedd tân dan do yn gallu gwneud cais am fagiau ychwanegol os oes eu hangen arnynt.

Os oes angen cadi brown neu fin gwyrdd newydd ar breswylwyr, gallant gasglu un o’r canolfannau Hwb neu o swyddfeydd y cyngor yn Llandeilo, sy’n haws, neu gallant archebu un ar-lein.

Er mwyn helpu preswylwyr i ailgylchu eu gwastraff bwyd yn haws, byddwn yn dosbarthu tri rholyn o fagiau bin bwyd ar gyfer y cadis cegin brown ynghyd â thri rholyn o fagiau glas. 

Bydd y broses ddosbarthu’n dechrau ym mis Hydref ac yn para tan ddiwedd mis Mawrth a gall preswylwyr ddefnyddio’r traciwr dosbarthu ar-lein ar wefan y cyngor i gael gwybod pryd y gellir disgwyl eu bagiau. Nodwch eich côd post a bydd yn rhoi gwybod i chi am eich mis dosbarthu. 

Hefyd bydd rhai newidiadau yn cael eu cyflwyno yn y canolfannau ailgylchu o 7 Hydref. Gofynnir i breswylwyr wahanu unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu o’r eitemau na ellir eu hailgylchu cyn iddynt gyrraedd. Bydd yr holl fagiau du yn cael eu hagor ac os byddant yn cynnwys unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu, bydd yn rhaid eu sortio ar y safle.

Nod y newidiadau hyn yw helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu’r sir. Ar hyn o bryd rydym yn ailgylchu oddeutu 58% o’n sbwriel ond mae angen i ni gyrraedd 64% erbyn diwedd y flwyddyn ariannol neu gallwn gael gosb ariannol fawr gan Lywodraeth Cymru. 

Mae ymgyrch fawr i addysgu a chodi ymwybyddiaeth wedi’i lansio i roi gwybod i breswylwyr am y newidiadau hyn. 

Os hoffech gael posteri i’w gosod yn eich cymuned, anfonwch e-bost at Marchnata a’r Cyfryngau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y wefan.

Diolch

Y Tîm Gwastraff ac Ailgylchu

————————————————

A number of changes are coming in from October 7 that will affect bin collections and recycling centres.

The maximum number of black bags that residents will be able to put out for collection will be 3 a fortnight.

Remember, there is no limit on how many blue bags can be put out for collection and food waste is collected weekly.

The more you recycle the less black bag rubbish you will have. On average almost half of the contents of black bags in Carmarthenshire are recyclable and as much as a quarter of it is food waste.

Large families of six or more, families that have children in nappies and households that produce coal ash waste from indoor fireplaces will be able to apply for additional bags if they need it.

If residents need a replacement brown caddy or green bin they can pick one up from one of the Hwbs or the council offices in Llandeilo, which will be quicker, or they can order them online.

To help residents recycle their food waste more easily, we will be delivering three rolls of food bin liners for the brown kitchen caddies along with the three rolls of blue bags.

Deliveries start in October up until the end of March and residents can use the online delivery tracker on the council’s website to find out when theirs is due. Simply type in your postcode and it will tell you your month of delivery. 

There are also some changes coming in at the recycling centres from October 7. Residents are being asked to separate any recyclable items from non-recyclable items before they arrive. All black bags will be opened and if they contain any items that can be recycled they will have to be sorted on site. 

The aim of these changes is to help the county increase its recycling rate. We are currently recycling around 58% of our rubbish but we need to reach 64% by the end of the financial year or there could be a large financial penalty from Welsh Government.

A major education and awareness campaign has been launched to inform residents of these changes.

If you would like any posters to put up in your community please email CE Marketing and Media.

Further information can be found on the website.

Thanks

The Waste and Recycling Team

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *